Ymneilldüwch/Ymneilltuwch bethau'r ddaear

1,2,3,4,(5).
(Ymddedwyddu yn Nuw)
Ymneilldüwch, bethau'r ddaear,
  Pethau natur, pethau'r byd;
'R wy'n dymuno peidio gwrando
  Ar eich holl ddeniadau 'nghyd:
    Unig Un, uwch na dyn,
  Mae fy enaid wrtho 'nglŷn.

Doed y diluw i deyrnasu
  Eto unwaith fel o'r blaen:
Deued annhrefn i gymmysgu
  Daear, awyr, dŵr, a thân;
    Dedwydd fi yn y lli',
  Tra f'o'm Duw'n teyrnasu fry.

Colled pob blodeuyn hyfryd
  Ei holl degwch îs y rhôd;
Deued hacrwch ar wynebau
  Pob creadur sydd yn bod;
    Tegwch byd fydd ynghyd
  Oll yn wyneb Prynwr drud.

Pe diffoddai'r heulwen ddisglaer
  Yn yr awyr deneu, lâs,
A phe treuliai'r sêr y fflamau
  Ynddynt sydd o dân i maes;
    Mi gâf fyw, gyda'm Duw,
  Mewn disgleirdeb heb ei ryw.

Mi gâf fod o flaen yr orsedd,
  Mi gâf ganu'r anthem bur,
Pan ddarfyddo sôn am ddaear -
  Sôn am foroedd, sôn am dir:
    Dwyfol loes
          angeu'r groes
  Fydd y canu ddydd a nôs.
William Williams 1717-91

Tonau [8787337]:
Groeswen (J A Lloyd 1815-74)
James Street (T Davies)
Priscilla (D J James 1743-1831)
Stepney (W Bayley)

gwelir:
  Colled pob blodeuyn hyfryd
  Doed y diluw i deyrnasu
  Mi dybygwn gwelai'r bore

(Delighting in God)
Retreat, ye things of the earth,
  Things of nature, things of the world;
I wish to stop listening
  To all your attractions altogether:
    One alone, higher than man,
  My soul is sticking to him.

Let the deluge come to reign
  Once again as before:
Let chaos come to mix
  Earth, air, water, and fire;
    Happy I in the flood,
  While ever my God is reigning above.

Let every delightful flower lose
  All is fairness under the sky;
Let ugliness come upon the faces
  Of every creature that exists;
    The fairness of the world shall be
  Altogether in a precious Redeemer's face.

If the radiant sunshine should extinguish
  In the thin, blue sky,
And if the stars spent out
  The flames of fire within them;
    I would get to live, with my God,
  In radiance without compare.

I shall get to be before his throne,
  I shall get to sing the pure anthem,
When mention of earth passes away -
  Mention of seas, mention of land:
    Divine anguish of the
          death of the cross
  Shall be the singing day and night.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~